
Mae prosiect Chwarae, Dysgu a Thyfu’n Iach Sir Gaerfyrddin (a leolir yn Rhydaman/Caerfyrddin/Llanelli/Castellnewydd Emlyn) yn brosiect 3-blynedd ar y thema ‘Ffrindiau Iach’, gan weithio’n bennaf gyda phlant oed 7/8 a 10/11 drwy brosiect cyfeillio – ‘bod yn byti’ a chan ymestyn i gyrraedd plant iau, 2 flwydd oed a throsodd, a throsodd.
Bwriad y prosiect yw codi ymwybyddiaeth o werth gweithgaredd corfforol/bwyta’n iach, ac i gyflwyno syniadau ar gyfer ‘bod yn byti’ mewn amgylchedd sy’n draddodiadol anaddysgiadol. Yn aml canolbwyntir gwaith yn y maes hwn ar raglenni iechyd a gyflwynir drwy’r ysgolion. Bydd y prosiect hwn, fodd bynnag, yn darparu ‘ dysgu drwy chwarae’. Bydd y gweithgareddau’n canolbwyntio’n bennaf ar ‘fod yn bytis’ â phlant oed cynradd sy’n mynychu clybiau gofal plant all-ysgol a gwarchodwyr plant. Rhoddir hyfforddiant a chefnogaeth i bob plentyn sy’n gwirfoddoli i fod yn ‘bytis’.
Ariennir y prosiect â £425.797 o fenter Ffordd o Fyw (FfoF) Cronfa’r Loteri Fawr (CLF), sydd â’i nod i ddatblygu ffyrdd newydd ac arloesol o hyrwyddo bwyta’n iach, gweithgaredd corfforol a chwarae ymysg plant drwy brosiectau sy’n cynnwys y teulu cyfan.
Bu gordewdra ymysg plant yn un o’r tueddiadau sydd wedi achosi’r mwyaf o bryder yng Nghymru dros y ddegawd ddiwethaf, â mwy o blant dros bwysau nag erioed o’r blaen. Y mae’n nod gan FfoF i fynd i’r afael â gordewdra ymysg plant drwy ddefnyddio tri model gwahanol y mae’r prosiectau llwyddiannus yn eu defnyddio i gyflwyno’r rhaglen.
Datblygir y deunyddiau/adnoddau/gemau, a gynhyrchwyd i gefnogi’r gweithgareddau, mewn camau gan y prosiect, ac fe’i beilotir ar bob cam gyda’r plant i sicrhau eu bod yn ‘tyfu’ ochr yn ochr â’r deunydd cyn bod y rhain ar gael i gynulleidfa ehangach. Bydd y pecyn adnodd/canllaw terfynol yn un a fydd yn hawdd i blant/rhieni/gweithwyr chwarae eu defnyddio.
Yn ychwanegol at yr elfen ‘bod yn byti’ â phlant hŷn, bydd rhai adnoddau’n cael eu treialu gyda phlant iau/cyn-ysgol. Bydd hyn yn sicrhau bod y negeseuon a’r adnoddau cysylltiol yn cyrraedd cymuned ehangach yn gynharach, a bod plant, teuluoedd a gweithwyr gofal plant yn dod yn gyfarwydd â’r cynnwys. Gwerthusir effaith y prosiect gyda’r plant, y rhieni a’r gweithwyr gofal plant.
Mae gan Bartneriaid y Prosiect, Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs, Mudiad Ysgolion Meithrin a Cymdeithas Darparwyr Cyn-Ysgol Cymru hanes o gydweithio’n llwyddiannus â’i gilydd. Mae ganddynt gynrychiolaeth o fewn yr Awdurdodau Lleol ar y Partneriaethau Plant a Phobl Ifanc ac mae ganddynt gysylltiadau â’r Bartneriaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles, a phob agwedd berthnasol o’r Adran Addysg, y Bwrdd Iechyd Lleol a’r Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol.
Bydd Grŵp Cynghori, â’i aelodau’n nifer o gyfundrefnau perthnasol yn Sir Gaerfyrddin, yn cyfarfod yn rheolaidd i gefnogi hynt y prosiect.








