
“Dengys gwaith ymchwil fod plant yn gallu dysgu arferion newydd yn effeithiol pan fo plant eraill sydd ychydig yn hŷn na nhw, neu eu cyfoedion, yn eu harwain ac yn eu cefnogi'n gymdeithasol”
Maes gorchwyl yr ymchwil: Ffordd o Fyw - Ffrindiau Iach
Bydd angen i’r bydi:-
- Wirfoddoli amser i weithio ochr yn ochr â phlant iau
- Rhoi gwedd gadarnhaol i’r rôl a gosod esiampl dda.
- Gofalu am sicrhau bod y cyfarpar addas ar gael ar gyfer y sesiynau.
- Helpu i ddatrys problemau gwrthdaro isel a chyfeirio’r lefelau uwch i’r aelodau perthnasol o’r staff
- Lleihau’r nifer o blant “nad ydynt am gymryd rhan” drwy ddarparu cefnogaeth un i un.
- Annog cyfranogiad a chynyddu hunan-dyb drwy weithgareddau hwyl a baratoir.
Hyfforddi
Mae’r staff wedi derbyn yr Hyfforddiant Bydis a edrychodd ar y syniadau sylfaenol y tu ôl i’r syniad o fod yn bydi, a sut y gellir ymgorffori hyn yn y lleoliadau.
Eglurodd y ddwy sesiwn y byddai’r staff yn eu cynnal gyda’r plant. Mae hyn er mwyn sicrhau bod y plant yn deall eu rolau a’u cyfrifoldebau parthed bod yn bydi, a hefyd sut i ddefnyddio’r adnoddau a ddarperir.
Cyrhaeddodd yr amcanion canlynol: -
- Deall yr angen am i blant gyfranogi mewn gweithgareddau corfforol o ansawdd a chynnal ffordd iach o fyw.
- Deall y syniad sylfaenol y tu ôl i’r system ‘bydi’
- Adnabod y priodoleddau angenrheidiol ar gyfer dod yn bydi da
- Deall proses recriwtio bydis
- Cyflwyno’r hyfforddiant priodol i ymgeiswyr llwyddiannus
Recriwtio bydis
- Bydd y plant yn ysgrifennu llythyr yn amlinellu’r rhesymau pam maent yn credu y byddent yn fyti priodol.
- Yna cyflwynir dau sesiwn hyfforddi i amlinellau rolau a chyfrifoldebau’r bydis yn eu lleoliadau.
- Cânt gyfleoedd i drafod unrhyw broblemau a chwilota’r deunyddiau a gynlluniwyd ar eu cyfer.
Deunydd Cefnogi
- Rhoddir llyfrynnau, Canllawiau Cyfeillio, i’r plant i’w helpu yn eu rôl, a lle y gallant ychwanegu eu dyddiadau hyfforddi.
- Bydd y llyfrynnau’n eu hatgoffa o’u rôl.








