
Mae’r Prosiect Chwarae, Dysgu a Thyfu’n Iach, drwy Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn anelu at ddarparu gwasanaeth o ansawdd da i bawb ar bob adeg, ond cydnabyddwn nad ydym bob tro yn llwyddo. Mae angen i ni wybod pryd yr aiff pethau o chwith. Lle ceir amgylchiadau pan deimlwch yr angen i gwyno wrthym, rydym yn awyddus i wrando ar eich barn. O wneud hyn, gallwn ddysgu o unrhyw gamgymeriadau, eu cywiro, arbed gwneud camgymeriadau tebyg yn y dyfodol a chanfod sut i wella ar ein gwasanaeth lle bynnag bo’n bosibl.
Os nad ydych yn fodlon â safon ein gwasanaeth, y gweithredu neu ddiffyg gweithredu ar ran staff Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs, yna dylech ddodi eich cwyn ar bapur a’i anfon at:
Y Cyfarwyddwr
PREIFAT & CHYFRINACHOL
Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs
Tŷ’r Bont
Ffordd yr Orsaf
Llanisien
Caerdydd
CF14 5UW
E-bost: wendyh@clybiauplantcymru.org
Sicrhewch, os gwelwch yn dda, eich bod yn cynnwys eich enw a’ch cyfeiriad, copïau o unrhyw ohebiaeth, enwau’r personau perthnasol, a manylion a dyddiadau’r gŵyn ei hun. Byddwch yn derbyn ymateb cychwynnol, ynghyd â chopi o’n gweithdrefn gwynion, a fydd yn rhoi amlinelliad o sut yr ymdrinnir â’r gwyn.
Darlwythwch ein Polisi Cwynion, Canmoliaeth a Sylwadau fel PDF








