
Polisi Canmoliaeth a Sylwadau
Os oes gennych rywbeth i’w ddweud – rydym am glywed gennych.
Mae Prosiect Chwarae, dysgu a Thyfu’n Iach, drwy Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs, yn gwella ei wasanaethau yn gyson, ac mae eich adborth yn bwysig i ni. Os oes gennych syniad, sylw neu ganmoliaeth, hoffem pe baech yn dweud wrthym. Bydd hyn yn ein helpu i wella’r gwasanaethau sydd ar gynnig gennym o fewn i’r prosiect.
Mae pob rhyddid ichi rannu eich safbwyntiau â ni drwy gwblhau’r ffurflen ar-lein [ar y ddalen Adborth] . Os yw’n well gennych, gallwch anfon e-bost i info@plgh.org, neu ysgrifennu’n uniongyrchol at y
Rheolydd Prosiect,
Chwarae, Dysgu a Thyfu’n Iach,
Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs,
62 Plymouth Street,
Abertawe
SA1 3QQ.
Trosglwyddir eich sylwadau yn ogystal at Gyfarwyddwraig Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs ac, os yn briodol, hysbysir y staff perthnasol.








