
Mae prosiect ymchwil 3-blynedd ‘Ffordd o Fyw’ a ariennir gan y Loteri Fawr, ar waith yn Sir Gaerfyrddin. Tra’n gweithio’n bennaf gyda phlant oed 7/8 blwydd oed a 10/11 blwydd oed drwy gynllun ‘bod yn byti’ bydd yn ymestyn i gyrraedd plant iau, oed 2 a throsodd, ynghyd â’u teuluoedd.
Prosiect cyffrous, newydd, sydd i’w roi ar waith yn Sir Gaerfyrddin
Beth yw hyn?
Sut fyddwch yn gwybod bod hyn y gweithio? Rhwng yn awr a Thachwedd 2011 bydd y prosiect yn anelu at newid agwedd plant, eu hymwybyddiaeth a’u hymddygiad at weithgareddau mwy corfforol, a dewisiadau iachach ynglŷn â’u bwyd.
Sut gwneir hyn? Cynhyrchir ystod o adnoddau a bydd y ‘bytis’ yn gwneud y gweithgareddau hyn gyda’r plant eraill yn y clybiau gofal plant all-ysgol ac mewn lleoliadau gwarchodwyr plant. Bydd rhai adnoddau’n cael eu haddasu a’u defnyddio gyda phlant iau mewn cylchoedd chwarae cyn-ysgol a chylchoedd meithrin.
Beth fydd yn ei wneud? Ar ddechrau’r prosiect cesglir data llinell sylfaen ar lefel gweithgaredd a bwyta’r plant. Cesglir data pellach ar sail dymhorol er mwyn gweld a yw’r plant yn mwynhau mwy o weithgareddau corfforol ac yn bwyta bwyd iachach.

Adroddiad Dros Dro ar gyfer Dydd Dwyn i Ben - 03/10/2011
... i ddarllen mwy...
Newyddlen Haf 2011 - 30/06/2011
... i ddarllen y newyddlen diwethaf
Arddangosfa o Brosiect Chwarae, Dysgu a Thyfu’n Iach yn y Senedd - 05/03/2011
... I ddarllen mwy...









