
Digwyddiad Dwyn i Ben Chwarae, Dysgu a Thyfu’n Iach
Dewch draw i glywed am ganlyniadau prosiect Chwarae, Dysgu a Thyfu’n Iach yn Sir Gaerfyrddin, a dysgu am brosiectau eraill Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs sy’n mynd rhagddynt ar hyn o bryd.
Cadarnheir manylion pellach, a’r Siaradwyr ar yr achlysur hwn, maes o law.
Hydref 7fed 2011, Canolfan Haliwell, Sir Gaerfyrddin. Bwyd/diod o 08.30am, y digwyddiad i ddechrau at 09.30am.
CYF: CPCKC
Cyflwyno Adnoddau i’n Gwarchodwyr Plant
Ar Chwefror 26ain, roedd 12o warchodwyr plant o bob rhan o Sir Gaerfyrddin yn bresennol yng nghartref Helene Lovell yn Llanymddyfri i dderbyn bocs mawr o adnoddau yr un, er mwyn hybu gweithgareddau corfforol yn eu lleoliadau nhw, wrth iddynt ddefnyddio pecyn cerdyn adnodd Chwarae, Dysgu a Thyfu’n Iach.
Ymhlith yr eitemau niferus yn y blychau yr oedd batiau, peli, bagiau ffa, conau, marcwyr, parasiwt, mat target.
Ariannwyd prynu’r bocsys gan Gronfa Datblygiad Cymunedol Sir Gaerfyrddin.
Roedd y Cynghorwyr Nigel a Dorothy Burgess, Maer a Maeres Llanymddyfri, Cyng. Jill Bludd, Cadeirydd Sefydliad y Merched, Llanymddyfri, a Mrs Sandra Beard, gwraig crïwr tref Llanymddyfri yno hefyd.
Cafodd bawb dipyn o hwyl yn rhwydweithio. Fe rannwyd coffi a chacenni rhoddwyd cefndir y prosiect a diweddariad ar y canlyniadau hyn yn hyn.
Diolchodd Karen Pereira, y Rheolydd Prosiect, i’r holl warchodwyr plant am eu cefnogaeth yn hyfforddi’r bydis yn eu lleoliadau, casglu’r data gan y plant a’u rhieni, defnyddio’r adnoddau ac annog y bydis i weithio tuag at y Wobr Arweinwyr Ifanc o Ymddiriedolaeth Chwaraeon Prydain.
Ymhlith y sylwadau gan y rhai a fynychodd y diwrnod yr oedd: -
Diolch am eich lletygarwch ardderchog ar Ddydd Sadwrn, Helene. Fe wnes fwynhau’r diwrnod a’r cwmni’n fawr iawn. Dyw’r plant heb adael i mi roi’r bocs heibio eto; maen nhw’n dod o hyd i beth newydd i chware â nhw byth a hefyd. Ac roedd fy ngŵr yn hoff iawn o’r gacen.
Unwaith eto, diolch am ein cynnwys yn eich prosiect.
Cofion, Sue xx
Diolch yn fawr iawn am ddoe , biti fod yn rhaid mynd yn gynnar, wedi lawrlwytho llun grŵp i FB yn barod , diolch eto
Eifionydd Jenkins
Annwyl Bawb,
Mae’r dyddiadau canlynol bellach wedi eu cadarnhau ar gyfer y rownd nesaf o gyfarfodydd Grŵp Ffocws.
|
DYDDIAD
|
AMSER
|
LLEOLIAD
|
|
05.04.11
|
3.30yp -5.30yp
|
Clwb Gofal Ysgol Gymraeg Rhydaman, Ysgol Gymraeg Rhydaman, Lon Yr Ysgol, Rhydaman SA18 2NS
|
|
07.04.11
|
3.30yp -5.30yp
|
Clwb Gofal Cae’r Felin, Ysgol Cae’r Felin, Pencader SA39 9AA
|
|
12.04.11
|
3.30yp -5.30yp
|
Clwb Caredig, Ysgol Nantgaredig, Nantgaredig, Carmarthen SA32 7LG
|
|
14.04.11
|
3.30yp -5.30yp
|
COY Swiss Valley ASC, Ysgol Gynradd Gymunedol Swiss Valley, Felinfoel, Llanelli SA14 8DS
|
Ar Fehefin 4ydd 2010, roedd tîm Chwarae, Dysgu a Thyfu’n Iach yn bresennol yn Eisteddfod yr Urdd yn Aberaeron. Ar y cyd â Mudiad Ysgolion Meithrin, cawsom amser gwych yn dangos i’r plant a’r rhieni ein set newydd o gardiau adnodd. Cymerodd bawb ran yn ein her sgipio, gan gynnwys mamau a thadau. Da iawn bob un ohonoch chi a lwyddodd i ennill rhaff sgipio! A chan diolch i chi, Mudiad Ysgolion Meithrin am ganiatáu lle i ni.
Gwelwch yma luniau o’r her sgipio.
Rydym newydd orffen ein rownd ddiweddaraf o gyfarfodydd Grŵp Ffocws. Y tro yma roeddem yn canolbwyntio ar Faeth, a chynhaliwyd gweithdai gan Laura Griffiths, un o Swyddogion Hyfforddi Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs, yn seiliedig ar ein cardiau maeth. Mae’r adborth wedi bod yn gdarnhaol ac fe wnaeth yr holl blant gael mwynhad gwirioneddol o’r gwahanol weithgareddau. Diolch yn fawr iawn i chi’r mannau canlynol am genogi yn ein cyfarfodydd :-
Ysgol Cae’r Felin, Pencader
Y Gamfa Wen, Caerfyrddin
Ysgol Rhydaman, Rhydaman
Ysgol Pum Heol, Llanelli








