
Mae preifatrwydd eich gwybodaeth o’r pwys mwyaf i brosiect Chwarae Dysgu a Thyfu’n Iach drwy Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs. Mae’r datganiad canlynol yn amlinellu ein polisïau a’n egwyddorion ynglyn â phreifatrwydd ar-lein, ac mae’n berthnasol i’r wefan gyfan. Rydym yn ymrwymedig i amddiffyn eich preifatrwydd ac i chwarae ein rhan i gynnal unplygrwydd y Rhyngrwyd. Oherwydd natur newidiol anghenion defnyddwyr a’n busnes ni ei hun, rydym yn cadw’r hawl i addasu ein polisi preifatrwydd ar unrhyw adeg heb rybudd. Gan ein bod am sicrhau yn barhaus fod ein polisi preifatrwydd yn ddealladwy, argymhellwn eich bod yn adolygu’r polisi yn gyson er mwyn nodi unrhyw newidiadau a allai fod wedi digwydd.
Gwybodaeth yr ydym yn ei chasglu
Pan fyddwch yn ymateb i hysbyseb gan brosiect Chwarae Dysgu a Thyfu’n Iach drwy Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs (drwy ein gwefan neu drwy drawsyriant e-bost) gallem fod yn casglu gwybodaeth bersonol amdanoch. Gall y wybodaeth yma gynnwys eich enw, cyfeiriad, cod post, cyfeiriad e-bost, rhyw a dyddiad geni.
Beth ydym yn ei wneud â’r wybodaeth yr ydym yn ei chasglu
- Gofynnwn am y wybodaeth yma er mwyn eich darparu â’n gwasanaethau ac, yn bennaf, am y rhesymau canlynol:
- I gadw cofnodion mewnol
- Gallwn ddefnyddio’r wybodaeth yma er mwyn gwella ein cynnyrch a’n gwasanaeth.
- Gall ein cynrychiolwyr ddilyn ymhellach, naill ai drwy e-bost, ffôn, ffacs neu’r post, ein cysylltiad â’r bobl sydd wedi ymateb i’n hysbyseb er mwyn cadarnhau eu gofynion fel rhan o’n gweithdrefn gofal –am-gwsmeriaid.
- Gallwn anfon ebostau hysbysebol yn gyfnodol ynglyn â gwasanaethau newydd, cynigion arbennig neu wybodaeth arall y credwn a allai fod o ddiddordeb i chi gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost a roddir.
Yn awr ac yn y man, gallwn hefyd ddefnyddio’r wybodaeth i gysylltu â chi i bwrpasau ymchwil i’r farchnad. Gallem gysylltu drwy e-bost, ffôn, ffacs neu’r post, oni bai eich bod wedi cofrestru gyda’r Gwasanaeth Dymuniad priodol.
Gallwn drosglwyddo eich gwybodaeth bersonol ymlaen i drydydd parti os credwn y bydd eu cynhyrchion neu wasanaethau o ddiddordeb i chi oni bai eich bod yn dweud wrthym nad ydych am i hyn ddigwydd.
Trwy ddarparu eich gwybodaeth ar-lein, rydych yn cytuno y gallwn ddefnyddio eich gwybodaeth fel y’i gosodwyd yn y polisi preifatrwydd. Os nad ydych am i ni ddefnyddio eich gwybodaeth i bwrpasau marchnata uniongyrchol neu os nad ydych am i ni ryddhau eich gwybodaeth bersonol i drydydd parti, byddwch gystal â thicio’r bocs yma.
O dan Ddeddf Diogelu Data 1998, gallwch chi geisio manylion y manylion personol rydym yn eu cadw amdanoch chi. Bydd ffi swyddogol yn daladwy. Os ydych am wneud cais ddylech ysgrifennu at:
Y Gyfarwyddwraig,
Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs,
Tŷ’r Bont,
Ffordd yr Orsaf,
Llanisien,
Caerdydd,
CF14 5UW.
Os ydych yn credu bod unrhyw wybodaeth sydd gennym amdanoch yn anghywir neu’n anghyflawn, dylech ysgrifennu at ein Swyddog Cydsyniad Diogelu Data yn y cyfeiriad uchod. Bydd unrhyw wybodaeth sydd i’w gweld yn anghywir yn cael ei chywiro cyn gynted ag sy’n bosib.
Rydym yn ymdrechu i warchod diogelwch y wybodaeth a roddwch i ni, a byddwn yn defnyddio mesurau cyfoes er mwyn darparu’r math yma o ddiogelwch.
Anfonwch ymlaen unrhyw sylwadau sydd gennych ynglyn â’r polisi yma, os gwelwch yn dda, at: info@clybiauplantcymru.org
Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs.








