

Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs
Tŷ’r Bont
Ffordd yr Orsaf
Llanisien
Caerdydd
CF14 5UW
Mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn arwain yn y prosiect hwn ac yn gweithio’n uniongyrchol gyda chlybiau gofal plant all-ysgol a gwarchodwyr plant yn Sir Gaerfyrddin. Bydd y staff yn recriwtio ac yn hyfforddi bytis o glybiau a lleoliadau gwarchod-plant, a bydd y bytis hynny wedyn, wedi eu hyfforddi, yn cynnal gweithgareddau gyda phlant iau. Mesurir data llinell-sylfaen ar ymwybyddiaeth y plant o fwyta iach a phwysigrwydd gweithgareddau corfforol ar y dechrau, ac eir yn ôl atynt yn dymhorol. Y bwriad yw codi ymwybyddiaeth a newid ffyrdd o ymddwyn er mwyn eu galluogi i wneud dewisiadau ar sut i fyw’n iach i’r dyfodol. Hefyd, cesglir data gan staff y lleoliadau hyn i weld a gafodd y prosiect hwn argraff ar eu ffordd o fyw.
Datganiadau Cenhadol y Partneriaid
Mae Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs yn bodoli i helpu cymunedau yng Nghymru drwy hyrwyddo, datblygu a chefnogi clybiau gofal plant all-ysgol sydd o ansawdd, yn fforddiadwy ac yn hygyrch.
Wales Pre-school Providers Association
Uned 1
The Lofts
9 Hunter St
Tre-bute
Caerdydd
CF10 5GX.
www.walesppa.org
Mae Cymdeithas Darparwyr Cyn-Ysgol Cymru yn gyfundrefn bartner i’r prosiect hwn, a bydd yn gweithio gyda’i aelod-grwpiau cyn-ysgol yn treialu rhai o’r gweithgareddau a ymgymerir gyda’r plant sy’n mynychu lleoliad gwarchod plant neu glwb gofal plant all-ysgol. Bydd Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs yn ymchwilio i weld pa weithgareddau y gellir eu gwahaniaethu ar gyfer y plant iau, ac a gaiff y rhain yr un effaith wrth newid ymwybyddiaeth ac agwedd y plant tuag at ffordd iachach o fyw. Bydd y plant, rhieni/gofalwyr a’r staff oll yn llenwi holiaduron ar lefel bresennol eu gweithgaredd a’u dewis o fwyd ac eto, mesurir hyn yn dymhorol.
Datganiadau Cenhadol y Partneriaid
Mae Cymdeithas Darparwyr Cyn-Ysgol Cymru’n bodoli i ychwanegu at ddatblygiad, gofal ac addysg plant cyn-ysgol yng Nghymru. Anogwn rieni i ddeall anghenion eu plant a darparu ar eu cyfer drwy gyfrwng grwpiau cyn-ysgol o ansawdd da. Anelwn at roi i oedolion yr hyder i ddefnyddio eu gwybodaeth a’u hadnoddau yn y modd gorau posib, er budd iddynt eu hunain a’r plant cyn-ysgol.
Mudiad Ysgolion Meithrin
Canolfan Integredig Mudiad Ysgolion Meithrin
Boulevard de Saint-Brieuc
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 1PD
www.mym.co.uk
Mae Mudiad Ysgolion Meithrin yn gyfundrefn bartner i’r prosiect hwn a bydd yn gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg gyda’u aelod-leoliadau cyn-ysgol. Yn debyg i Gymdeithas Cylchoedd Chwarae Cyn-Ysgol Cymru byddant yn treialu rhai o’r gweithgareddau a ymgymerir gyda’r plant sy’n mynychu lleoliad gwarchod-plant neu glwb gofal plant all-ysgol. Bydd Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs yn ymchwilio i weld pa weithgareddau y gellir eu gwahaniaethu ar gyfer y plant iau, ac a gaiff y rhain yr un effaith wrth newid ymwybyddiaeth ac agwedd y plant tuag at ffordd iachach o fyw. Bydd y plant, rhieni/gofalwyr a’r staff oll yn llenwi holiaduron ar lefel bresennol eu gweithgaredd a’u dewis o fwyd ac eto, mesurir hyn yn dymhorol.
Datganiadau Cenhadol y Partneriaid
Mae Mudiad Ysgolion Meithrin yn gyfundrefn wirfoddol. Mae’n nod ganddi i roi i bob plentyn ifanc yng Nghymru y cyfle ennill budd o’r gwasanaethau blynyddoedd cynnar a phrofiadau drwy gyfrwng y Gymraeg.








