
Rhoddir mynediad i’r safle hwn, a chaniateir y defnydd ohono, gan Chwarae Dysgu a Thyfu’n Iach yn ôl y Telerau a’r Amodau canlynol:
- Bod eich defnydd o’r safle hwn yn golygu derbyn y Telerau a’r Amodau hyn, sy’n weithredol o’r dyddiad y defnyddiwch y safle am y tro cyntaf.
- Mae prosiect Chwarae Dysgu a Thyfu’n Iach, drwy Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs yn cadw’r hawl i newid y Telerau a’r Amodau ar unrhyw adeg drwy eu newid ar-lein. Mae eich defnydd parhaus o’r safle wedi ymgorffori’r newidiadau’n gyfystyr â’ch derbyniad o’r cytundeb hwn fel y’i diwygiwyd gan y newidiadau a wnaed iddo.
- Cyfyngiadau Hawlfraint
- Cedwir pob hawl; ni chaniateir copïo, ailgyhoeddi, postio, darlledu neu atgynhyrchu mewn unrhyw fodd o gwbl unrhyw ran o’r wefan hon, gan gynnwys gwybodaeth, delweddau, ffotograffau, logos, enwau nac eiconau, heb ganiatâd y deiliaid hawlfraint ymlaen llaw.
- Ni ellir darlwytho’r dogfennau ar y safle hwn, eu newid na’u haddasu, ar gyfer unrhyw bwrpas ar wahân i ddefnydd personol, anfasnachol.
- Mae’r holl wybodaeth ar y safle hwn ar sail “FEL Y MAE” ac “YN ÔL ARGAELEDD”. Mae prosiect Chwarae Dysgu a Thyfu’n Iach drwy Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs yn ymdrechu hyd eithaf ei allu i sicrhau cywirdeb neu gyfanrwydd y wybodaeth ar y safle hwn. Ein nod yw cadw’r wybodaeth yn amserol ac yn gywir. Os tynnir ein sylw i gamgymeriadau, fe ymdrechwn i’w cywiro.
- Gwefan Prosiect Chwarae Dysgu a Thyfu’n Iach
- Dylai unrhyw gyfundrefn sy’n dymuno ffurfio dolen i’r safle hwn gysylltu â ni drwy gyfrwng y ffurflen Cysylltwch â Ni.
- Nid yw bodolaeth dolen o safle unrhyw gyfundrefn sy’n cysylltu â safle Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs yn golygu fod Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs yn cymeradwyo gweithgareddau na safbwyntiau’r gyfundrefn honno.
- Dylai unrhyw gyfundrefn sy’n dymuno ffurfio dolen i’r safle hwn gysylltu â ni drwy gyfrwng y ffurflen Cysylltwch â Ni.
- Dolenni allanol o wefan prosiect Chwarae Dysgu a Thyfu’n Iach
- Bydd prosiect Chwarae Dysgu a Thyfu’n Iach drwy Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs yn ffurfio dolenni â gwefannau perthnasol / o fudd; bwriedir y dolenni hyn yn unig ar gyfer rhoi gwybodaeth fwy cynhwysfawr / gywir ynglŷn â chynnyrch / gwasanaethau / cyfundrefnau a allent fod â chysylltiad / heb gysylltiad â phrosiect Chwarae Dysgu a Thyfu’n Iach drwy Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs, ond sy’n ymddangos ar ein gwefan i bwrpasau gwybodaeth.
- Nid yw bodolaeth dolen o safle unrhyw gyfundrefn sy’n gysylltiedig â safle prosiect Chwarae Dysgu a Thyfu’n Iach yn golygu bod prosiect Chwarae Dysgu a Thyfu’n Iach drwy Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs yn cymeradwyo gweithgareddau na safbwyntiau’r gyfundrefn honno. Nid yw prosiect Chwarae Dysgu a Thyfu’n Iach drwy Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs yn gyfrifol am gynnwys gwefannau drwy gyfrwng dolenni allanol, ond bydd prosiect Chwarae Dysgu a Thyfu’n Iach drwy Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs, lle / pan yn bosibl, yn sicrhau bod y dolenni’n rhai addas a phriodol ar gyfer gweithgaredd Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs.
7. Gellwch brintio copi caled, darlwytho i ddisg caled lleol, neu ddefnyddio mewn dull arall, unrhyw ddeunydd y doir o hyd iddo ar y safle hwn, cyn belled â’i fod ar gyfer eich defnydd personol neu ar gael yn unig i eraill yn eich cyfundrefn. Ym mhob achos rhaid cydnabod ar y copi mai prosiect Chwarae Dysgu a Thyfu’n Iach drwy Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs yw ffynhonnell y deunydd; rhaid cadw pob hysbysiad hawlfraint a pherchnogaeth yn union fel ag y maent, a rhaid atgynhyrchu ein cyfeiriad a’n manylion cysylltu.
8. Eich bod yn cytuno i ddefnyddio’r safle hwn i bwrpasau cyfreithiol yn unig, ac mewn modd nad ydyw’n torri ar draws hawliau, yn cyfyngu nac yn rhwystro'r defnydd a’r mwynhad o’r safle hwn gan drydydd parti. Mae’r fath gyfyngiad neu rwystr yn cynnwys, heb derfyn, ymddygiad sydd yn anghyfreithlon neu a allai aflonyddu ar unrhyw berson, achosi trallod neu anghyfleustra iddynt, ynghyd â thrawsyrru deunydd anllad neu dramgwyddus, neu dorri ar draws llif arferol deialog ar y safle hwn.
9. Darperir y safle hwn ynghyd â’r wybodaeth, yr enwau y delweddau, ffotograffau, logos ac eiconau, parthed, neu sy’n berthynol, i brosiect Chwarae Dysgu a Thyfu’n Iach drwy Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs, ei gynnyrch a’i wasanaethau (neu o eiddo ein noddwyr, cefnogwyr ac unrhyw gyfundrefnau eraill y mae Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs yn cydweithio â hwy, neu’n gysylltiedig â hwy), ar sail ‘FEL Y MAE’ ac ‘YN ÔL ARGAELEDD’ heb sylwadau nag ardystiad, a heb warrant o unrhyw fath, wedi ei fynegi neu sy’n oblygedig, gan gynnwys, ond heb ei gyfyngu i warantau goblygedig ansawdd boddhaol, addasrwydd ar gyfer pwrpas arbennig, o anhrosedd, cyfaddasrwydd, diogelwch a chywirdeb.
10. Gall prosiect Chwarae Dysgu a Thyfu’n Iach drwy Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs ychwanegu, newid, gwella neu ddiweddaru’r wybodaeth ar y safle hwn heb rybudd. Ceidw Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs ei hawl arbennig ei hun yn ôl ei ddoethineb ei hun yn unig, newid y wefan hon, cyfyngu arni neu roi diwedd ar ran ohoni. Nid yw prosiect Chwarae Dysgu a Thyfu’n Iach drwy Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw ddifrod, yn cynnwys, heb gyfyngiad, ddifrod anuniongyrchol neu ganlyniadol, neu golli elw, neu unrhyw ddifrod o gwbl sy’n deillio, neu sy’n gysylltiedig â defnyddio neu golli’r defnydd o’r safle hwn. Cyfrifoldeb y Defnyddiwr ei hun, a neb arall, yw’r risg sy’n gysylltiedig â defnyddio’r safle hwn.
11. Nid yw prosiect Chwarae Dysgu a Thyfu’n Iach drwy Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs yn gwarantu bod y swyddogaethau a gynhwysir yn y deunydd a welir ar y safle hwn heb doriad yn ei barhad, neu heb gamgymeriad, y cywirir diffygion na bod y safle hwn, neu’r gweinydd sy’n sicrhau ei argaeledd, yn rhydd o firwsau neu fygiau, neu’n cynhyrchioli llawn swyddogaeth, cywirdeb neu ddibynadwyedd y deunydd.
12. Os oes cyd-daro rhwng y Telerau a’r Amodau hyn, a’r rheolau a/neu delerau penodol parthed defnydd yn ymddangos ar y safle hwn, sy’n berthnasol i ddeunydd penodol, yna y telerau penodol sy’n trechu.
13. Os bernir bod unrhyw un o’r Telerau ac Amodau hyn yn anghyfreithlon, yn annilys neu’n anweithredol o ganlyniad i gyfreithiau unrhwy dalaith neu wlad y bwriedir i’r Telerau a’r Amodau hyn fod yn effeithiol ynddynt, yna, i’r graddau y bo’r Telerau a’r Amod yn anghyfreithlon, yn annilys and yn anweithredol, yn ôl yr awdurdodaeth y’u bernir felly, fe’u diddymir a’u dileu o’r cymal hwn, a phery’r Telerau a’r Amodau sy’n weddill mewn grym llawn, yn orfodol ac yn weithredol.
14. Bydd y Telerau a’r Amodau hyn dan lywodraeth cyfreithiau Lloegr a Chymru ac fe’u dehonglir felly. Bydd unrhyw anghydfod yn deillio o hyn yn ddarostyngedig yn unig i awdurdodaeth llysoedd Lloegr a Chymru.
15. Oni dderbynnir y Telerau a’r Amodau hyn yn llawn, rhaid terfynu’r defnydd o’r safle hwn yn syth.
16. Dylid anfon unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r wefan hon i adran weinyddol Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs drwy e-bost, contact@clybiauplantcymru.org neu drwy’r ffurflen Cysylltwch â Ni ar y wefan.
Casglu Data
- Rhoi Mynediad Dienw i Ymwelwyr.
Gellwch gyrchu a phori ar ein safle heb ddatgelu eich data personol.
- Casglu Gwybodaeth yn Awtomatig
Nid yw prosiect Chwarae Dysgu a Thyfu’n Iach drwy Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs yn defnyddio ffeiliau darganfod ar ein safle. Nid ydym yn logio data personol yn awtomatig, ac nid ydym ychwaith yn cyd-gysylltu gwybodaeth a logwyd yn awtomatig drwy ddulliau eraill â data personol am unigolion penodol.
- Casglu Data a Manyleb Pwrpas
Mae prosiect Chwarae Dysgu a Thyfu’n Iach drwy Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs yn casglu data personol y gallech eu gwirfoddoli tra’n defnyddio ein safle. Cesglir y data hwn am y rhesymau canlynol yn unig:
· Aelodaeth ddi-dâl /Aelodaeth daledig Ebostio newyddlenni
· Dychwelyd eich cais am gyswllt
· Dychwelyd eich cais am wybodaeth
Nid yw Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs yn casglu nac yn defnyddio data personol am unrhyw bwrpas ar wahân i’r pwrpas a nodir uchod.
Os dymunwn ddefnyddio eich data personol ar gyfer pwrpas newydd, cynigiwn ichi’r modd i gytuno i’r pwrpas newydd hwn drwy nodi hyn mewn blwch ar y safle lle y cesglir data personol.
Mae Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs yn sicrhau na ddatgelir eich data personol i sefydliadau nac awdurdodau’r Wladwriaeth oni bo hynny’n ofynnol gan y gyfraith neu reoleiddiad arall. Am wybodaeth bellach gwelwch ein Polisi Preifatrwydd.
Dyddiad y’i Diweddarwyd: 28 July 2009








